Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 19 Gorffennaf 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
10:00 - 11:20 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mick Antoniw Keith Davies Russell George Vaughan Gething Llyr Huws Gruffydd Julie James William Powell (Cadeirydd) David Rees Antoinette Sandbach |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Prys Davies, Is-adran Ynni, Dŵr a Llifogydd Nicola Edwards, Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Lara Date (Clerc) Alun Davidson (Clerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Lisa Llewellyn (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas. Nid oedd dirprwy.
2. Ymchiliad i ddiogelu’r arfordir - Tystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
2.1 Bu Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy’n ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
2.2 Yn unol â cheisiadau a wnaed gan aelodau’r Pwyllgor, cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:
· Tabl sy’n cynnwys ffigurau ar wahân ar gyfer y dyraniadau ariannol a wneir ar gyfer rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol o gyllideb yr Adran, o gyllideb graidd y Llywodraeth ganolog ac o raglenni Ewropeaidd.
· Gwybodaeth am y gwaith a wneir ar y cyd gyda’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ar y Bartneriaeth Môr Glas, mewn perthynas â diogelu’r arfordir a thwristiaeth.
3. Y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Dŵr: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol
3.1 Cytunodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y ffaith nad oes ganddo wrthwynebiad i ddefnyddio’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, fel y’i cynigiwyd gan Lywodraeth Cymru.
4. Papurau i'w nodi
4.1 Ymchiliad i ddiogelu’r arfordir - Papur gan Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
4.1 Nodwyd y papur.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.24(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod.
6. Trafodaeth ar y flaenraglen waith - Tymor yr Hydref 2012
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr Hydref 2012.
7. Polisi Amaethyddol Cyffredin - llythyr drafft
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin.